Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 23 Mawrth 2022
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Cwestiwn Amserol (10 munud)
[Gofyn i Weinidog yr Economi]
LUKE FLETCHER
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd penderfyniad yr Uchel Lys mewn perthynas â pharc ynni Baglan yn ei chael ar fusnesau?
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(10 munud)
Cwestiwn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lletya ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru?
4 Datganiadau 90 eiliad
(5 munud)
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Adeiladau Crefyddol
(60 munud)
NDM7953 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod adeiladau crefyddol, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn parhau i gael eu cau ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru i drafod dyfodol yr adeiladau hyn.
Cyd-gyflwynwyr
Cefnogwyr
6 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm – Mynd i'r afael â diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi
(60 munud)
NDM7961 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ei imchwiliad: Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyrcerbydau nwyddau trwm, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022..
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mawrth 2022.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Diogelwch Bwyd
(60 munud)
NDM7963 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ffermwyr a chymunedau gwledig yn ei wneud i iechyd a ffyniant y genedl.
2. Yn nodi'r effaith negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang sy'n deillio o ymosodiad Rwsia ar Wcráin, a'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar bobl yng Nghymru.
3. Yn credu bod angen chwyldro amgylcheddol a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;
b) defnyddio'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) arfaethedig i gorffori diogelwch bwyd er lles y cyhoedd;
c) gwneud diogelwch bwyd yn gonglfaen allweddol i gymorth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys cymhellion;
d) cefnogi'r Bil Bwyd (Cymru) arfaethedig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn gresynu mai'r bygythiad mwyaf uniongyrchol i ddiogelwch y cyflenwad bwyd i bobl sy'n byw yng Nghymru heddiw yw'r argyfwng costau byw a grëwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru er mwyn annog y gwaith o gynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru, gan gefnogi ein cymunedau i sicrhau newid cadarnhaol yn ein system fwyd;
b) creu system newydd o gymorth i ffermydd sy'n cydnabod y gwaith o gynhyrchu bwyd lleol sy'n gynaliadwy yn ecolegol, gan adlewyrchu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig o Reoli Tir yn Gynaliadwy.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 eu ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd ffermydd teuluol bach cynhyrchiol o ran cynnal yr economi, yr iaith a'r diwylliant yng nghefn gwlad Cymru.
Yn credu y bydd toriadau i gyllid amaethyddol Cymru gan Lywodraeth y DU, ynghyd â Chytundebau Masnach Rydd newydd gyda gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd, yn cael effaith negyddol bellach ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull uwchgynhadledd fwyd gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, fel y gall Cymru chwarae ei rhan i dyfu ei sylfaen cynhyrchu bwyd a rhoi hwb i ddiogelwch bwyd;
b) amddiffyn diogelwch bwyd a chynhyrchu bwyd drwy ddarparu taliadau sefydlogrwydd fel rhan o'r cynllun cymorth ffermio nesaf;
c) datblygu ffyrdd o leihau costau mewnbwn i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd, er mwyn lleihau cost y bwyd y maent yn ei gynhyrchu i ddefnyddwyr.
8 Cyfnod pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7962 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cefnogi cymunedau sy'n wynebu risg parhaus o lifogydd: a yw'n amser sefydlu fforwm llifogydd i Gymru?
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 29 Mawrth 2022